![]() Yr Arlywydd Truman yn annerch cyd-sesiwn y Gyngres ar 12 Mawrth 1947. | |
Enghraifft o: | athrawiaeth polisi tramor ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 12 Mawrth 1947 ![]() |
Athrawiaeth polisi tramor oedd Athrawiaeth Truman a sbardunwyd gan Harry S. Truman, Arlywydd yr Unol Daleithiau, ar 12 Mawrth 1947 pan ddatganodd y bydd yr Unol Daleithiau yn cefnogi Gwlad Groeg a Thwrci â chymorth economaidd a milwrol er mwyn eu hatal rhag ildio i gylch dylanwad yr Undeb Sofietaidd, sef y Bloc Dwyreiniol, yn ystod Rhyfel Cartref Groeg. Awgrymodd Truman bydd y polisi yn gosod cynsail i'r Unol Daleithiau gefnogi "pobloedd rydd" oedd yn gwrthsefyll "llywodraethau totalitaraidd".
Yn Chwefror 1947 derbyniodd Truman rybudd gan lywodraeth y Deyrnas Unedig na allai fforddio talu am gynnal ei milwyr yng Ngroeg mwyach. Pe bai lluoedd Prydain yn gadael, roedd gwir berygl y byddai Groeg yn disgyn i ddwylo gwrthryfelwyr comiwnyddol. Ni allai Prydain fforddio rhoi cymorth i Dwrci chwaith, a wynebai'r un bygythiad. Penderfynodd Truman lenwi'r bwlch. Anerchodd gyd-sesiwn o'r Gyngres, gan ofyn am $400 miliwn ar gyfer Groeg a Thwrci a dadlau bod yr arian yn angenrheidiol os oedd democratiaeth am drechu totalitariaeth: "Ar y funud hon yn hanes y byd rhaid i bob cenedl, bron, ddewis rhwng dwy ffordd wahanol o fyw. Yn rhy aml, nid yw'n ddewis rhydd. Mae un ffordd o fyw wedi'i seilio ar ewyllys y mwyafrif, ac fe'i nodweddir gan sefydliadau rhydd, llywodraeth gynrychiadol, etholiadau rhydd, gwarantau yn cefnogi rhyddid yr unigolyn, rhyddid barn, rhyddid i addoli, a rhyddid rhag gormes gwleidyddol. Mae'r ail ffordd o fyw wed'i seilio ar ewyllys y lleiafrif yn cael ei gorfodi ar y mwyafrif. Mae'n dibynnu ar fraw a gormes, gwasg a radio dan reolaeth, etholiadau wedi'u trefnu ymlaen llaw, ac atal rhyddid personol. Credaf y dylai'r Unol Daleithiau arddel polisi o gefnogi pobl rydd sy'n gwrthsefyll ymdrechion lleiafrifoedd arfog neu bwysau o'r tu allan i'w darostwng."[1]
Cytunodd y Gyngres i anfon $400 miliwn i'r ddwy wlad, ond dim lluoedd milwrol. Arweiniodd hyn at gwymp y bygythiad comiwnyddol yn y ddwy wlad, ac ymaelododd Groeg a Thwrci â NATO, cynghrair milwrol y Gorllewin, ym 1952. Dangosodd Athrawiaeth Truman newid mawr ym mholisi tramor yr Unol Daleithiau, gan ymroddi i wrthdaro â'r Undeb Sofietaidd. Mae nifer o hanesyddion felly yn nodi 12 Mawrth 1947 fel dechrau'r Rhyfel Oer. Daeth yr athrawiaeth yn sail i bolisi tramor yr Unol Daleithiau am bron 45 mlynedd, gan ehangu ar ffurf cyfyngiant, sef ymyrraeth i gyfyngu ar ymlediad comiwnyddiaeth.